Mae economi Prydain wedi crebachu unwaith eto yn ôl ffigurau gafodd eu cyhoeddi heddiw.

Rhwng Hydref a Rhagfyr disgynnodd y cynnyrch mewnwladol crynswth – y GDP – gan 0.3%, yn groes i’r disgwyl. Roedd economi Prydain wedi tyfu gan 0.9% yn y chwarter blaenorol ac roedd disgwyl i’r adferiad bychan barhau.

Os bydd yr economi’n crebachu eto yn ystod y chwarter yma yna bydd Prydain yn ôl mewn dirwasgiad yn swyddogol, ac nid oes disgwyl i’r economi ail-dyfu o achos yr eira trwm y mis yma.

Mae’r ffigurau heddiw gan y Swyddfa Ystadegau yn rhoi pwysau ychwanegol ar y Canghellor George Osborne. Dywedodd llefarydd o’r Trysorlys nad yw’r ffigurau yn annisgwyl a bod y llwybr tuag at adfer yr economi yn un anodd.

Roedd y sector gynhyrchu wedi cael chwarter anodd yn niwedd 2012 ac mae’r gostyngiad o 1.8% o fewn y sector yna wedi cyfrannu at y crebachu.