Tesco - un o'r archfarchnadoedd sydd wedi gwrthu byrgyrs gyda chig ceffyl
Mae undeb ffermwyr wedi galw ar i archfarchnadoedd weithredu ar unwaith i wella eu ffyrdd o labelu cig ac i wneud yn siŵr o ddiogelwch eu cynnyrch.

Ar ôl i bedwar cwmni dynnu byrgyrs eidion oddi ar eu silffoedd oherwydd bod cig ceffyl ynddyn nhw, mae’r NFU yn dweud bod enw da cynhyrchion gwledydd Prydain wedi eu “tanseilio”.

Yn ôl llywydd yr undeb, Peter Kendall, mae eisiau i archfarchnadoedd wneud yn siŵr fod cig o wledydd Prydain yn cael ei labelu’n glir er mwyn dangos ei fod yn wahanol ac fel bod cwsmeriaid yn gallu gweld hynny’n glir.

Pedwar cwmni

Mae olion o gig ceffyl wedi eu cael mewn byrgyrs sy’n cael eu cynhyrchu gan ddau gwmni yn Iwerddon a’u gwerthu gan y cwmni Cymreig, Iceland, a Tesco, Aldi a Lidl.

Yn ôl y cwmnïau Gwyddelig mae’r broblem wedi codi oherwydd bwydydd sydd wedi eu labelu’n anghywir yn Sbaen a’r Iseldiroedd.

Mae’r undebau ffermwyr yng Nghymru hefyd wedi galw am reolau llymach tros fewnforio bwydydd.

Y dyfyniad allweddol

“Mae digwyddiadau’r dyddiau diwetha’ wedi tanseilio hyder yn niwydiant bwyd y Deyrnas Unedig ac mae ffemwyr yn flin bod cynnyrch safonol o wledydd Prydain yn cael ei beryglu gan gynhwysion rhatach tramor sydd, mae’n ymddangos, heb fod yn dilyn y systemau trylwyr sydd gyda ni,” meddai Peter Kendall.