Alex Salmond
Fe allai cyfansoddiad Alban annibynnol gynnwys hawl i gartref ac addysg am ddim a gwaharddiad ar arfau niwclear.

Dyna awgrym Prif Weinidog y wlad wrth i’r Senedd yn Llundain basio’r mesur sy’n rhoi hawl i Lywodraeth yr Alban gynnal refferendwm annibyniaeth.

Fe allai’r cyfansoddiad newydd hefyd gynnwys rheolau ynglŷn ag anfon milwyr yr Alban i ryfel.

Ond, mewn araith i newyddiadurwyr tramor yn Llundain, fe bwysleisiodd y byddai pobol yr Alban a phob plaid wleidyddol yn cael llais yn y broses o lunio cyfansoddiad.

‘Bywiogi ac ysbrydoli’

“Fe fydd y gwaith o lunio cyfansoddiad yn bywiogi ac ysbrydoli pobol o bob plaid ac ar draws bywyd sifig yr Alban,” meddai Alex Salmond.

“Bydd yn rhan o drefniant newydd rhwng y llywodraeth a’r bobol. Bydd yn sail addas ar gyfer cenedl annibynnol newydd.”

Os bydd canlyniad y refferendwm o blaid annibyniaeth, roedd yn disgwyl y byddai deddf yn cael ei phasio erbyn mis Mai 2016 i drosglwyddo sofraniaeth “o San Steffan i Holyrood” ac y byddai’r etholiadau cynta’n digwydd yr un pryd ar gyfer senedd Alban annibynnol.

Codi amheuon

Er hynny, mae gwleidyddion y gwrthbleidiau ac arbenigwyr academaidd wedi codi amheuon am y syniad o gyfansoddiad ysgrifenedig a rhai o’r awgrymiadau.

Yn ôl Ceidwadwyr yr Alban, “breuddwyd ffŵl” yw meddwl fod modd sicrhau addysg am ddim yn dragywydd ac, yn ôl academyddion sy’n cael eu dyfynnu gan bapur y Scotsman, fe allai cyfansoddiad ysgrifenedig greu cymhlethdodau a chlymu dwylo senedd a llywodraeth.