David Cameron
Fe fydd meincwyr cefn y Blaid Geidwadol yn galw ar David Cameron heddiw i newid y berthynas gyda’r Undeb Ewropeaidd ac yn rhybuddio  “nad yw’r status quo bellach yn opsiwn.”

Mae’r grwp Fresh Start yn dweud bod angen i’r Prif Weinidog ail-afael ym mhwerau Prydain “ac na ddylai dderbyn unrhyw beth llai na hynny.”

Bydd David Cameron yn cwrdd ag aelodau Ceidwadol y Cabinet heddiw er mwyn trafod manylion ei araith hir-ddisgwyliedig ar Ewrop.

Mae disgwyl i Fresh Start, a gafodd ei sefydlu gan George Eustice, Andrea Leadsom a Chris Heaton-Harris, gymryd mantais o’r ffocws ar Ewrop i lansio eu “maniffesto am newid” ynglŷn â pherthynas Prydain a’r UE.