Fe fydd cyflog cychwynnol plismyn yn cael ei dorri £4,000 i £19,000, fe gyhoeddodd yr Ysgrifennydd Cartref heddiw.

Daw’r cyhoeddiad wrth i Theresa May gymeradwyo pecyn o ddiwygiadau dadleuol a gafodd eu hargymell gan y cyfreithiwr Tom Winsor mewn adolygiad annibynnol.

Dywedodd Theresa May y byddai’r diwygiadau yn rhan o raglen i “foderneiddio cyflogau a thelerau plismyn fel eu bod yn deg i swyddogion a’r trethdalwr.”

Ond mae’r cynlluniau wedi cynddeiriogi miloedd o blismyn. Dywedodd Ffederasiwn yr Heddlu yng Nghymru a Lloegr nad oedd y cyflog cychwynnol ar gyfer plismyn “yn adlewyrchu’r peryglon a gofynion y swydd.”