Ty'r Arglwyddi
Fe fydd David Cameron yn bwrw mlaen gyda phleidlais yn Nhŷ’r Cyffredin i newid ffiniau etholaethau, er gwaetha canlyniad trychinebus y bleidlais yn Nhŷ’r Arglwyddi neithiwr.

Roedd Arglwyddi’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi ymuno a Llafur i gefnogi gwelliant a fyddai’n golygu oedi cyn cyflwyno newidiadau i leihau nifer yr Aelodau Seneddol tan ar ôl yr etholiad cyffredinol nesaf.

Roedd 72 o’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi pleidleisio yn erbyn y Llywodraeth, gyda’r gwelliant yn cael ei gymeradwyo gyda mwyafrif o 69.