Peter Robinson
Bydd Prif Weinidog Gogledd Iwerddon, Peter Robinson a’r Dirprwy Brif Weinidog, Martin McGuiness yn cyfarfod cynrychiolwyr llywodraethau Prydain a Gweriniaeth Iwerddon yr wythnos nesaf i drafod y terfysg diweddar yn Belffast.

Cafodd 29 o swyddogion yr heddlu eu hanafu yno neithiwr wrth i’r protestio barhau yn erbyn penderfyniad i chwifio baner Jac yr Undeb ar Neuadd y Ddinas ar rai dyddiau yn unig yn hytrach na thrwy gydol y flwyddyn.

Mwyafrif cenedlaetholgar sydd ar Gyngor Belffast ar hyn o bryd ac mae’r unoliaethwyr wedi bod yn protestio yn erbyn y penderfyniad ers chwech wythnos bellach.

Daeth tua 1,000 o brotestwyr ynghyd y tu allan i’r neuadd brynhawn ddoe a dechreuodd carfannau o’r unoliaethwyr a’r cenedlaetholwyr ymladd yn rhan ddwyreiniol y ddinas gyda’r nos.

Dywedodd y Prif Weinidog, Peter Robinson bod gwleidyddion yng Ngogledd Iwerddon wedi gwneud penderfyniadau anodd er mwyn creu cymdeithas ble mae pawb yn gallu cyfrannu iddi.

“Rydym o’r farn ein bod yn benderfynol i adeiladu y math o gymdeithas ble y gall pawb fyw yn ddiogel ac yn sefydlog,”meddai.