Mae Aelodau Seneddol wedi dweud wrth yr awdurdod sy’n adolygu eu cyflogau eu bod yn haeddu codiad cyflog o 32% i £86,250, fe ddatgelwyd heddiw.

Roedd arolwg gan yr Awdurdod Safonau Seneddol Annibynnol (IPSA) hefyd yn dangos bod traean yn credu y dylen nhw gadw eu pensiynau hael.

Cafodd y manylion eu datgelu wrth i IPSA gyhoeddi adroddiad ynglŷn â’i hymgynghoriad i gyflogau a phensiynau, a ddaeth i ben fis diwethaf.

Mae’r ymchwil, a gafodd ei gwblhau gan wleidyddion yn ddienw, yn dangos bod 69% yn credu nad ydyn nhw’n cael eu talu digon. Mae eu cyflog ar hyn o bryd yn £65,738 ac maen nhw’n awgrymu codiad i £86,250.

Mae IPSA hefyd wedi cadarnhau nad yw’n bwriadu cyflwyno tal yn ôl perfformiad, tal rhanbarthol, nac ystyried enillion y tu allan i’r gwaith wrth bennu cyflogau.

Mae disgwyl i benderfyniadau terfynol gael eu cyflwyno yn  yr hydref.