John McCririck
Mae’r sylwebydd rasio ceffylau, John McCririck, wedi dweud heddiw ei fod am fynd â Channel 4 i’r llys gan honni ei fod wedi cael ei ddiswyddo am ei fod yn rhy hen.

Mae’n bwriadu hawlio  £3 miliwn o iawndal gan y sianel.

Cafodd John McCricick, 72, ei ddiswyddo pan wnaeth y sianel ddatgelu tîm cyflwyno newydd gyda Claire Balding wrth y llyw.

Dywedodd John McCricick mewn datganiad: “Ar ôl 29 mlynedd gyda Channel 4, rwy’ wedi cael fy niswyddo heb unrhyw ymgynghoriad nac esboniad pendant.

“Byddaf yn gofyn am £500,000 i wneud yn iawn am golli enillion yn y dyfodol, niwed annheg i fy ngyrfa, cywilydd cyhoeddus, straen a gofid meddwl.

“Hefyd, byddaf yn ceisio iawndal pellach o £2.5 miliwn, gyda rhan ohono’n mynd i sefydliadau elusennol sy’n helpu atal rhagfarn negyddol yn y gweithle,” meddai.

Dywedodd llefarydd ar ran Channel 4 eu bod nhw’n “ddiolchgar” i John McCricick am ei wasanaeth dros y blynyddoedd.

“Fodd bynnag,” meddai’r llefarydd. “Byddwn yn gwrthwynebu’r awgrym bod gwahaniaethu ar sail oedran wedi chwarae unrhyw ran yn y penderfyniad i beidio ag adnewyddu ei gytundeb llawrydd a byddwn yn amddiffyn yr honiad hwn.”