Fe fydd cynnydd mewn pris tocynnau trên yn dod i rym heddiw gan effeithio miliynau o deithwyr.

Bydd pris tocynnau – gan gynnwys tocynnau tymor – yn codi 4.2% ar gyfartaledd, gyda’r cynnydd cyffredinol am bob tocyn yn 3.9%.

Daw’r cynnydd mewn prisiau yn dilyn wythnosau o drafferthion i deithwyr oherwydd llifogydd, signalau’n methu, a phrinder staff ar rai teithiau.

Wythnos ddiwethaf roedd gwaith peirianyddol oedd heb ei orffen mewn pryd yn golygu bod rhai trenau wedi gorlenwi.

Mae grwpiau ymgyrchu yn dweud mai dyma’r degfed cynnydd yn olynol sy’n uwch na chwyddiant, gyda rhai teithwyr wedi gweld cynnydd o 50% mewn tocynnau tymor dros y 10 mlynedd ddiwethaf.

Mae’r TUC yn dadlau bod prisiau tocynnau wedi cynnydd gynt na chyflogau ers y dirwasgiad yn 2008.

Gall rhai cwmnïau trenau gynyddu eu prisiau 4.2% cyhyd a bod y prisiau ar gyfartaledd ddim yn codi’n uwch na 4.2%.

Dywedodd y Gweinidog Trafnidiaeth Norman Baker bod y Llywodraeth yn gwneud y buddsoddiad mwyaf yn y rheilffyrdd ers y 19eg ganrif a’i bod “yn deg bod teithwyr, yn ogystal â’r trethdalwr, yn cyfrannu tuag at hynny.

Yn y tymor hir, meddai, mae’r Llywodraeth yn  benderfynol o leihau’r gost o gynnal y rheilffyrdd fel ei bod yn gallu rhoi diwedd i gynnydd mewn prisiau sy’n uwch na chwyddiant.