Syr Paul McCartney a Robbie Williams yw dau o sêr y byd cerddoriaeth sy’n ymddangos ar sengl elusen sy’n cael ei ryddhau heddiw.

Mae’r fersiwn newydd o gân yr Hollies, ‘He Ain’t Heavy, He’s My Brother’ gan The Justice Collective yn cael ei gynhyrchu gan Guy Chambers a bydd yr elw i gyd yn mynd i dalu am gostau cyfreithiol teuluoedd cefnogwyr pel-droed Lerpwl gafodd eu lladd yn nhrychineb Hillsborough yn 1989.

Mae’r gân yn cael ei rhyddhau yn dilyn adroddiad damniol i’r digwyddiadau yn Stadiwm Hillsborough oedd wedi ceisio rhoi’r bai ar gefnogwyr pêl-droed Lerpwl.

Dywedodd cynhyrchydd y sengl, Guy Chambers: “Mae’r gân yn sôn am godi ymwybyddiaeth am anghyfiawnder a lledaenu ewyllys da drwy’r wlad i gyd.”

Mae’r sengl hefyd yn cynnwys cyfraniadau gan gyn enillydd The X Factor Rebecca Ferguson, Mel C o’r Spice Girls, Holly Johnson, Gerry Marsden a Paul Heaton.