Andrew Mitchell
Mae plismon wedi cael ei arestio ar amheuaeth o gamymddygiad ar ôl i wybodaeth gael ei roi i bapurau newydd ynglŷn â’r ffrae rhwng cyn brif chwip y Blaid Geidwadol Andrew Mitchell a phlismyn yn Downing Street.

Cafodd y cwnstabl ei arestio nos Sadwrn a’i ryddhau ar fechnïaeth ddoe, meddai Scotland Yard.

Fe ymddiswyddodd Andrew Mitchell ym mis Hydref yn dilyn honiadau ei fod wedi defnyddio iaith amhriodol ar ôl i blismyn wrthod caniatau iddo fynd  drwy brif giatiau Downing Street ar ei feic.