Ed Miliband
Fe fyddai Llafur yn gweithredu i geisio’i gwneud hi’n haws i fewnfudwyr ddod yn rhan o’r ‘diwylliant Prydeinig’, meddai ei harweinydd, Ed Miliband.

Wrth wneud araith allweddol heddiw am fewnfudo, fe fydd yn cydnabod bod ei blaid wedi gwneud camgymeriadau pan oedd mewn grym, yn arbennig tros bobol o ddwyrain Ewrop.

Un o’i atebion yw sicrhau bod rhagor o fewnfudwyr yn dysgu Saesneg, bod rhaid cael Saesneg i wneud rhai swyddi cyhoeddus a bod llai o bwyslais ar gyfieithu gwybodaeth i ieithoedd eraill. Ei slogan yw ‘Un Genedl’.

Fe fyddai hefyd yn cyflwyno rheolau llym yn erbyn perchnogion tai sy’n cymryd mantais annheg o fewnfudwyr ac yn erbyn asiantaethau gwaith sy’n hysbysebu am weithwyr o ychydig wledydd penodol.

Pryderu

Mae Ed Miliband yn pryderu, meddai, bod mewnfudwyr yn dueddol o grynhoi mewn rhai ardaloedd a bod rhai cymunedau’n methu delio â’r newid.

Ond fe fydd hefyd yn pwysleisio bod amrywiaeth ethnig yn beth da i wledydd Prydain a bod angen uno yn hytrach na rhannu.

“Ond ar yr un pryd, rydyn ni’n gwybod bod pryder am fewnfudo ac effaith hynny ar ein diwylliant,” meddai.

“Yr ateb yw peidio â sgubo’r peth o dan y carped neu fethu â siarad amdano, a pheidio â gwneud addewidion nad oes modd eu cadw.”

Y cefndir

Fe aeth Llafur i drafferthion tros fewnfudo adeg yr etholiad diwetha’, gyda’r Prif Weinidog ar y pryd, Gordon Brown, yn cyhuddo un wraig o fod yn “rhagfarnllyd”.

Ar yr un pryd, roedd yna fwy o fewnfudo yn ystod ei chyfnod mewn grym nag ar unrhyw adeg arall ers yr Ail Ryfel Byd.

Fe gafodd y Llywodraeth Lafur ei chyhuddo o fethu â sylweddoli maint y mewnlifiad tebygol o ddwyrain Ewrop.