Gaddafi
Mae’r Llywodraeth wedi cytuno i dalu mwy na £2 miliwn i deulu dyn o Libya a gafodd ei garcharu a’i arteithio ar ôl cael ei orfodi i ddychwelyd i Tripoli.
Roedd Sami al Saadi, oedd yn un o wrthwynebwyr Gaddafi, wedi cael ei orfodi i fynd ar awyren yn ôl i Tripoli gyda’i wraig a’u pedwar plentyn yn 2004, mewn ymgyrch ar y cyd rhwng y DU, UDA a Libya.
Deellir bod gweinidogion wedi cynnig £2.2 miliwn i al Saadi, ond nid yw’r Llywodraeth wedi cymryd cyfrifoldeb, meddai.
Dywedodd al Saadi bod yr arian yn “siarad drosto’i hun. Fe fyddwn ni’n rhoi rhan o’r arian i gefnogi dioddefwyr eraill sydd wedi cael eu harteithio yn Libya,” meddai.
Dim ond ar ol i Gaddafi gael ei ddisodli y daeth y dystiolaeth i’r amlwg am ran y DU yn yr ymgyrch i anfon al Saadi a’i deulu yn ol i Libya, meddai ei gyfreithwyr.
Roedd yr ymgyrch yn 2004 yn dilyn cytundeb rhwng y cyn brif weinidog Tony Blair a Gaddafi, a arweiniodd at gwmnïau fel BP yn sicrhau cytundebau olew llewyrchus. Roedd hefyd wedi arwain at y penderfyniad dadleuol i ddychwelyd Abdelbaset Ali Mohmed al Megrahi, a gafodd ei garcharu am ei ran yn nhrychineb Lockerbie, yn ol i Libya.
Mae ymgyrchwyr hawliau dynol yn galw am ymchwiliad llawn i achos Sami al Saadi.