Maria Miller
Fe fydd y Comisiynydd Safonau Seneddol yn cynnal ymchwiliad i dreuliau’r Ysgrifennydd Diwylliant Maria Miller, fe gyhoeddwyd heddiw.
Dywedodd swyddfa John Lyon, y Comisiynydd Safonau Seneddol, eu bod yn cynnal ymchwiliad yn dilyn cwyn bod Maria Miller wedi hawlio £90,000 mewn lwfansau am ail gartref tuag at gostau tŷ lle’r oedd ei rheini yn byw.
Cafodd y gwyn ei wneud gan yr Aelod Seneddol Llafur John Mann.
Yn gynharach yr wythnos hon roedd Miller wedi mynnu bod ei threuliau “yn union fel y dylen nhw fod.”
Dywedodd llefarydd ar ei rhan y byddai’n cyd-weithio gydag unrhyw ymchwiliad.
Roedd Maria Miller wedi hawliau lwfansau ar gyfer ail gartref gwerth £90, 718 rhwng 2005 2009 tuag at daliadau morgais, biliau a chostau eraill yn ymwneud a thŷ lle’r oedd ei rheini wedi bod yn byw ers 1996.