David Cameron
Fe fydd adroddiad i lofruddiaeth y cyfreithiwr o Belfast, Pat Finucane, yn cael ei gyhoeddi yn ddiweddarach heddiw.

Roedd y Prif Weinidog wedi galw am yr adolygiad, sy’n cael ei gynnal gan Syr Desmond de Silva QC, yn dilyn adroddiadau bod y lluoedd diogelwch wedi cydgynllwynio ym marwolaeth y cyfreithiwr.

Cafodd Pat Finucane, 38, ei saethu’n farw gan barafilwyr Unoliaethol – yr Ulster Freedom Fighters – o flaen ei wraig a’i blant yn ei gartref ym Melfast ym mis Chwefror 1989.  Mae ei deulu wedi galw am ymchwiliad cyhoeddus am eu bod yn pryderu na fydd yr holl fanylion yn cael eu datgelu yn yr adolygiad.

Mae disgwyl i David Cameron wneud datganiad yn Nhŷ’r Cyffredin prynhawn ma.