Y terfysg ym Melfast
Mae Unoliaethwyr sydd wedi bod yn creu terfysg ym Melfast wedi “dwyn gwarth ar faner yr Undeb” meddai Llywodraeth Prydain heddiw.

Dywedodd Ysgrifennydd Gogledd Iwerddon, Theresa Villiers, wrth Dŷ’r Cyffredin heddiw fod 32 o blismyn wedi cael eu hanafu yn helyntion yr wythnos ddiwethaf, tra bod 38 o bobol wedi cael eu cyhuddo gan yr heddlu.

“Gall neb wadu cefnogaeth y Llywodraeth yma i’r undeb ac i’r faner, ond nid yw’r bobol sydd wedi bod yn achosi trais dros yr wythnos ddiwethaf yn amddiffyn baner yr Undeb,” meddai Theresa Villiers.

‘Niweidiol iawn i weld terfysg ar y teledu’

Wythnos ddiwethaf pleidleisiodd cynghorwyr Belfast o blaid cynnig i beidio chwifio baner Jac yr Undeb ar Neuadd y Ddinas am y rhan fwyaf o’r flwyddyn. I fynegi eu dicter at y penderfyniad bu llanciau o’r gymuned unoliaethol yn creu terfysg ac yn taflu brics a bomiau petrol at yr heddlu.

“Dyma’r peth olaf un mae Gogledd Iwerddon ei angen ar adeg pan mae cymaint o ymdrech i adfywio’r sector preifat a hybu’r economi, i hybu buddsoddiad a hyrwyddo Gogledd Iwerddon fel lle da i fyw a gweithio,” meddai Theresa Villiers.

“Mae’n niweidiol iawn i weld y golygfeydd hyn o derfysg ac anhrefn ar ein sgriniau teledu,” meddai Theresa Villiers.

‘Ansensitif’

Mae Aelod Seneddol Gogledd Antrim, Ian Paisley’r ieuaf, wedi dweud fod y trais yn anochel ar ôl y penderfyniad i dynnu Jac yr Undeb oddi ar Neuadd y Ddinas.

“Roedd hi’n ansensitif o bobol i feddwl y gallan nhw dynnu’r faner genedlaethol bant heb fod yna oblygiadau i hynny,” meddai.