Mae cwmni coffi Starbucks wedi dweud heddiw y byddan nhw’n talu tua £10 miliwn y flwyddyn mewn treth gorfforaethol ym Mhrydain dros y ddwy flynedd nesaf.

Daw’r cyhoeddiad ar ôl iddi ddod i’r amlwg bod Starbucks ond wedi talu £ 8.6 miliwn mewn treth mewn 14 mlynedd o fasnachu ym Mhrydain a’u bod nhw heb dalu’r un geiniog yn y tair blynedd diwethaf.

Dywedodd Rheolwr Gyfarwyddwr Starbucks ym Mhrydain, Kris Engskov, wrth Siambr Fasnach Llundain y bydd newidiadau i drefniadau treth y cwmni’n golygu eu bod nhw’n talu’n mwy na sy’n ofynnol yn ôl y gyfraith.

Dywedodd Kris Engskov nad oedd y cynnig wedi ei drafod gyda Chyllid y Wlad a’r Trysorlys, gan ychwanegu: “Yn ystod y cyfnod anodd hwn, pan mae hi’n dod at  dreth, mae ein cwsmeriaid yn amlwg yn disgwyl i ni wneud mwy.”