Abu Qatada
Mae’r Ysgrifennydd Cartref Theresa May wedi cael caniatâd i apelio yn erbyn y penderfyniad i ganiatáu’r clerigwr dadleuol Abu Qatada i aros yn y DU, meddai swyddogion llys heddiw.
Roedd yr Ysgrifennydd Cartref wedi cyflwyno her gyfreithiol yn erbyn y penderfyniad ddydd Llun.
Fis diwethaf roedd Comisiwn arbennig i ystyried apeliadau mewnfudo (SIAC) wedi dyfarnu na ddylai Qatada gael ei estraddodi i Wlad yr Iorddonen lle mae wedi ei gyhuddo o droseddau yn ymwneud a therfysgaeth.
Roedd tri barnwr wedi penderfynu na fyddai’n cael achos teg yno.
Ond roedd Theresa May wedi cyflwyno apêl i’r Llys Apêl mewn ymdrech i wyrdroi penderfyniad SIAC.
Cafodd Qatada ei ryddhau ar fechnïaeth o’r carchar fis diwethaf gan ddychwelyd i’w gartref yng ngogledd Llundain.