George Osborne
“Mae’n cymryd amser, ond mae economi Prydain yn gwella.”

Dyna ddywedodd y Canghellor George Osborne wrth gyhoeddi datganiad yr hydref yn y Senedd prynhawn ma.

Ond roedd yn cyfaddef na fyddai’n cyrraedd ei darged i ostwng y diffyg ariannol a bod yr economi yn dal i wynebu problemau difrifol.

Serch hynny dywedodd bod  Prydain “ar y trywydd iawn ac fe fyddai troi nôl rŵan yn drychineb.”

Roedd hefyd yn cydnabod bod rhagolygon ar gyfer twf yr economi yn anghywir ac y byddai’r cyfnod o galedi yn parhau tan 2018.

Yn ôl  rhagolygon diweddaraf y Swyddfa Gyfrifoldeb Cyllidol mae disgwyl i’r economi grebachu 0.1% eleni o’i gymharu â rhagolygon blaenorol o dwf o 0.8%.

Cyhoeddodd na fydd yn cyflwyno treth newydd ar eiddo, ond mae wedi cyhoeddi mesurau i newid pensiynau pobl sy’n ennill y cyflogau mwyaf. Mae hefyd wedi cael gwared â’r cynnydd arfaethedig o 3c y litr mewn treth ar danwydd.

Budd-daliadau

Fe fydd cynnydd o 1% yn unig, llai na graddfa chwyddiant, mewn rhai budd-daliadau ar gyfer y di-waith dros y tair blynedd nesaf, ac 1% mewn budd-dal plant  am ddwy flynedd hyd at fis Ebrill 2014.

Ond fe fydd budd-dal gofalwyr a budd-dal anabledd yn codi yn unol â graddfa chwyddiant. Dywedodd  George Osborne nad oedd am weld teuluoedd sydd ar fudd-daliadau ar eu hennill o’i gymharu â theuluoedd sy’n gweithio.

Buddsoddiad o £5biliwn

Mae’r canghellor hefyd wedi cyhoeddi buddsoddiad mewn isadeiledd gwerth £5 biliwn dros ddwy flynedd gan gynnwys £1 biliwn ar gyfer gwella ffyrdd yr A1, A30 a’r M25.

Fe fydd y rheilffordd cyflym yn cael ei ymestyn i’r Gogledd Orllewin a Gorllewin Swydd Efrog. Bydd arian hefyd ar gael i helpu i adeiladu 120,000 o dai newydd.

Ym myd addysg, bydd buddsoddiad o £600 miliwn mewn gwyddoniaeth, £270 miliwn ar gyfer colegau addysg bellach, ac £1 biliwn ar gyfer ysgolion.

Ed Balls – ‘Methiant economaidd’

Dywedodd llefarydd y Blaid Lafur Ed Balls bod y cyhoeddiad heddiw yn datgelu “gwir raddfa methiant economaidd y Llywodraeth” gyda’r economi yn crebachu a’r diffyg yn cynyddu.

Plaid: ‘Datganiad yn codi cywilydd’

Dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar y Trysorlys, Jonathan Edwards AS, fod “Datganiad yr Hydref wedi codi cywilydd ar y Canghellor” a’i fod nawr yn “gorfod cyfaddef fod ei arbrawf llymder wedi bod yn fethiant llwyr.”

Yn hytrach na llymder, mae Plaid Cymru o blaid cynllun amgen.

“Wrth i’r Canghellor barhau i gyhoeddi polisïau fydd yn cynnal yr oes o lymder, Plaid Cymru yw’r unig blaid o bwys sy’n cynnig cynllun amgen a fyddai’n ein harwain ar hyd llwybr i Gymru deg a llewyrchus,” meddai.

Mae  Jonathan Edwards wedi galw am ddiwygio  Fformiwla Barnett, sy’n penderfynu faint o arian mae Cymru yn ei gael o San Steffan bob blwyddyn.

“Byddai ein cynlluniau ni i ddiwygio’r Fformiwla Barnett, datganoli cyfraddau busnes i Gymru, a rhoi’n cynllun Build for Wales ar waith yn hyrwyddo twf a chreu swyddi ar gyfer y 100,000 o bobl ledled Cymru sydd wedi colli eu swyddi  neu sy’n cael eu tan-gyflogi ers i’r Glymblaid ddod i rym.”

Ychwanegodd hefyd y byddai rhoi argymhellion y Comisiwn Silk, gafodd ei gyhoeddi fis diwethaf, ar waith ar unwaith.