Mae’r fersiwn print olaf o un o’r comics hynaf yn y byd yn mynd ar werth heddiw.

Mae The Dandy, sy’n cynnwys cymeriadau fel Desperate Dan a Bananaman, yn dathlu ei ben-blwydd yn 75 eleni drwy droi’n ddigidol.

Yn ei anterth yn yr 1950au roedd y comic yn gwerthu dwy filiwn o gopïau bob wythnos. Yn ddiweddar, mae’r ffigwr hwnnw wedi disgyn i tua 8,000.

Ond mae The Dandy wedi croesawu’r we fyd eang ac mi fydd ar gael i’w lawrlwytho ar-lein fel ap ar gyfer ffônau symudol neu dabledi. Bydd defnyddwyr hefyd yn gallu chwarae gemau rhyngweithiol, gwylio fideos a chreu a gofalu am anifail anwes rhithiol, Dandy Dollop.

Bydd y rhifyn print olaf yn cynnwys cameo gan Syr Paul McCartney a ddywedodd yn 1963 mai ei uchelgais oedd ymddangos yn y comic, ac atodiad rhydd o’r rhifyn cyntaf gafodd ei gyhoeddi ar 4 Rhagfyr, 1937.

Dywedodd David Bain, pennaeth datblygiad digidol y comic: “Mae’r Dandy yn fyw ac iach ac yn mynd i barhau fel arfer, ond ei fod o ar gael ar-lein o wythnos nesa ‘mlaen.”

Dywedodd hefyd eu bod nhw “wedi bod yn gwneud yn siŵr nad oes bron dim gwerth addysgiadol yn y comic, ar wahan i ddarllen.”