Abu Qatada
Mae’r Ysgrifennydd Cartref  wedi cyflwyno her gyfreithiol yn erbyn y penderfyniad i ganiatáu’r clerigwr radical Abu Qatada i aros yn y DU.

Fis diwethaf roedd Comisiwn arbennig i ystyried apeliadau mewnfudo  (SIAC) wedi dyfarnu na ddylai Qatada gael ei estraddodi i Wlad yr Iorddonen lle mae wedi ei gyhuddo o droseddau yn ymwneud a therfysgaeth.

Roedd tri barnwr wedi penderfynu na fyddai’n cael achos teg yno.

Ond mae Theresa May wedi cyflwyno apêl i’r Llys Apêl mewn ymdrech i wyrdroi penderfyniad SIAC.

Dywedodd ar y pryd ei bod wedi cael sicrhad gan Wlad yr Iorddonen ynglŷn â’u trefn gyfreithiol.

Cafodd Qatada ei ryddhau ar fechnïaeth o’r carchar Long Lartin gan ddychwelyd i’w gartref yng ngogledd Llundain.