Yr Arglwydd Ustus Leveson
Fe fydd trafodaethau rhyng-bleidiol ar adroddiad Leveson yn parhau heddiw cyn i ddadl yn y Senedd gael ei chynnal ynglŷn â’r argymhellion dadleuol i ddiwygio’r wasg.

Mae gwahaniaeth barn wedi dod i’r amlwg rhwng y pleidiau ers i’r Arglwydd Ustus Leveson  gyhoeddi ei adroddiad ddydd Iau diwethaf yn argymell y dylid sefydlu corff annibynnol newydd i reoleiddio’r wasg.

Ond mae’r Prif Weinidog David Cameron wedi mynegi ei amheuaeth am yr angen i ddeddfu ar y broses o reoleiddio’r wasg.

Mewn cyfarfod y bore ma, mae disgwyl i’r Ysgrifennydd Diwylliant Maria Miller, Harriet Harman o’r Blaid Lafur, a’r Democratiaid Rhyddfrydol geisio trafod y ffordd ymlaen.

Neithiwr, fe gyhoeddodd y Blaid Lafur eu bod wedi penodi tîm cyfreithiol i lunio Bil o fewn pythefnos er mwyn dadlau yn erbyn honiadau y byddai’r ddeddfwriaeth yn “anymarferol.”