George Osborne
Fe fydd y Canghellor yn cyflwyno cynllun gwerth £154 miliwn heddiw i dargedu cwmnïau mawr ac unigolion cyfoethog sy’n osgoi talu biliau treth.

Fe fydd  George Osborne yn galw ar swyddogion Cyllid a Thollau i ddefnyddio peth o’r arian i gyflogi swyddogion i ymchwilio i rai sy’n ennill cyflogau mawr ac sy’n osgoi talu trethi.

Ei fwriad yw ceisio adennill biliynau o bunnoedd yn ôl i’r Trysorlys.

Bydd  George Osborne yn cyhoeddi’r cynllun yr wythnos hon, pan mae disgwyl iddo hefyd gyflwyno newyddion llwm i rai sy’n hawlio budd-daliadau.