Nadine Dorries
Mae’r Aelod Seneddol Nadine Dorries yn mynnu heddiw ei bod wedi rhybuddio prif chwip y Llywodraeth ei bod am gymryd mis  i ffwrdd o’r gwaith er mwyn gwneud rhywbeth “eitha dadleuol” cyn iddi gymryd rhan yn y gyfres I’m A Celebrity… Get Me Out Of Here!.

Yr AS Ceidwadol oedd y cystadleuydd cyntaf i adael y gyfres neithiwr, ac fe fydd yn rhaid iddi nawr wynebu’r feirniadaeth sydd wedi bod yn dilyn ei phenderfyniad i gymryd rhan yn y gyfres yn y jwngl yn Awstralia.

Oherwydd rheolau’r sioe, nid oedd Nadine Dorries yn cael cyhoeddi o flaen llaw ei bod yn cymryd rhan.

Pan gyhoeddwyd bythefnos yn ôl ei bod yn ymddangos ar sioe ITV cafodd ei gwahardd o’r blaid gan wynebu beirniadaeth gan y  Prif Weinidog David Cameron, ei chyd Aelodau Seneddol a’i hetholwyr.

Ond dywedodd Nadine Dorries heddiw ei bod wedi cael caniatâd gan y brif chwip ar y pryd Andrew Mitchell i gymryd mis i ffwrdd ym mis Tachwedd.

Ond yn ôl Andrew Mitchell, sydd bellach wedi ymddiswyddo yn dilyn ei ffrae gyda’r heddlu yn Downing Street, nid oedd yr AS wedi cael caniatâd ganddo efo i ymddangos yn y gyfres. Mae hi’n cyfaddef nad oedd Mitchell wedi rhoi caniatâd iddi ymddangos yn y sioe ond ei fod wedi rhoi caniatâd iddi gymryd mis o’i gwaith.

Dywedodd Nadine Dorries heddiw ei bod wedi yn ôl wrth ei gwaith yn ei “swyddfa” yn ei hystafell wely yn y gwesty yn Awstralia.

Yn dilyn pleidlais y cyhoedd neithiwr i’w hanfon o’r jwngl, dywedodd yr AS ei bod wedi cael “profiad anhygoel” yno.