David Cameron
Fe fydd cynhadledd G8 yn cael ei chynnal yn Sir Fermanagh yng Ngogledd Iwerddon, fe gadarnhawyd heddiw.

Y disgwyl yw mai’r gwesty pum seren Lough Erne yn y sir fydd y lleoliad ar gyfer yr arweinwyr byd yn ystod y gynhadledd.

Mae disgwyl i’r Prif Weinidog David Cameron wneud cyhoeddiad swyddogol yn ystod ymweliad a Gogledd Iwerddon heddiw.