Rowan Williams - rhybudd
Fe fydd Synod Eglwys Lloegr yn pleidleisio heddiw ar ganiatáu i ferched ddod yn esgobion.

Ond, gyda’r esgobion eu hunain ac offeiriaid o blaid, fe allai’r cyfan gael ei rwystro gan aelodau lleyg.

Mae Archesgob Caergaint, y Cymro Rowan Williams, wedi rhybuddio y byddai gwrthod eto yn “embaras” i’r eglwys ac yn golygu “cyfnod pellach ac efallai mwy dwys o wrthdaro mewnol”.

Ac yntau’n ymddeol eleni, mae ei olynydd, Justin Welby, hefyd yn cefnogi.

Er mai dim ond i Eglwys Lloegr fydd yn cael ei heffeithio’n uniongyrchol, fe fyddai pleidlais o blaid yn rhoi mwy o bwysau ar i Gymru ddilyn.

Y pleidleisio

Fe fydd cyfres o bleidleisiau heddiw ar y prif gynnig a nifer o welliannau a, phebai’n cael ei basio, fe fyddai’n golygu gorseddu’r esgobion benywaidd cynta’ yn 2014. Fe fyddai hefyd yn rhoi’r cyfle i gael archesgobion benywaidd.

Fe fydd y bleidlais yn digwydd mewn tri ‘choleg’ ac mae’n rhaid i’r cyfan basio’r cynnig – yr esgobion, yr offeiriaid a lleygwyr.

Y gred yw fod mwyafrif clir ymhlith y ddau goleg cynta’ ond mae  disgwyl i’r bleidlais fod yn agos iawn ymhlith y lleygwyr.