Ed Miliband
Rhaid i bobol sydd o blaid Ewrop weithredu i ddiwygio’r Undeb Ewropeaidd – neu weld Prydain yn “cerdded yn ei chwsg” allan ohono.

Dyna fydd neges yr arweinydd Llafur, Ed Miliband, mewn araith i gymdeithas y cyflogwyr, y CBI.

Mae’n rhybuddio bod peryg i agwedd rhai Ceidwadwyr arwain at adael yr Undeb gan ddistrywio economi gwledydd Prydain yn y broses.

Mae amseru’r rhybudd yn bwysig – ddydd Iau, fe fydd Prif Weinidog Prydain, David Cameron, yn cwrdd ag arweinwyr eraill yr Undeb i drafod y gyllideb, gan fygwth defnyddio’r feto os bydd cynnydd mewn gwario.

Yn ôl Ed Miliband, mae angen adeiladu partneriaethau er mwyn diwygio’r Undeb – rhaid i bobol sydd o blaid Ewrop roi’r gorau i anwybyddu gwendidau yn y drefn, meddai.