Michael Gove
Mae undebau wedi beirniadu cynlluniau i ddiswyddo 1,000 o weithwyr yn yr Adran Addysg er mwyn arbed arian.

Mae’r adran wedi bod yn cynnal adolygiad ac yn bwriadu arbed £290 miliwn erbyn 2015/16, gan dorri nifer y gweithlu yn Lloegr. Fe fydd yn effeithio gweithwyr yn yr adrannau adnoddau dynol, cyfrifon a chyfrifiaduron a bydd rhai swyddfeydd yn cael eu huno er mwyn arbed costau cynnal a chadw adeiladau.

Dywedodd llefarydd bod yn rhaid i’r adran weithio’n “fwy effeithlon.”

Mae Mark Serwotka, ysgrifennydd cyffredinol Undeb Gwasanaethau Cyhoeddus a Masnachol wedi cyhuddo’r Ysgrifennydd Addysg Michael Gove o chwarae “gemau gwleidyddol gyda bywoliaeth phobl a pheryglu’r gwasanaethau pwysig mae gweision sifil yr Adran Addysg yn ei ddarparu i athrawon a’r cyhoedd.”