Banc Lloegr
Mae disgwyl y bydd Banc Lloegr yn gostwng eu disgwyliadau am dwf yn economi gwledydd Prydain.

Ar ôl proffwydo twf bychan, mae disgwyl y bydd y Banc heddiw’n newid ei gân a dweud y bydd yr economi wedi crebachu ychydig yn ystod 2012.

Fe fydd hynny’n cynyddu’r pwysau ar y Canghellor a’r Llywodraeth ar ôl ffigurau gwell yn ystod trydydd chwarter y flwyddyn – rhwng mis Gorffennaf a mis Medi.

Fe roddodd hynny ddiwedd ar ddirwasgiad dwbl ac fe gafodd ei groesawu’n gynnes gan y Canghellor George Osborne, gydag ef a’r Prif Weinidog David Cameron yn hawlio bod eu polisïau’n llwyddo.

Mae’r Banc wedi rhybuddio bod ffactorau tros dro wedi ystumio’r rheiny – digwyddiadau fel y Jiwbilî a’r Gemau Olympaidd.

Mae sylwebwyr hefyd yn disgwyl y bydd chwyddiant yn syrthio o fewn targed y Llywodraeth o 2% ac y bydd cyfraddau llog yn aros ar eu lefel isa’ erioed am hyd at dair blynedd arall.