Mae saith o ddynion yn derbyn triniaeth yn yr ysbyty ar ôl damwain ffordd ger Wall, Swydd Stafford, yn gynnar bore heddiw.
Roedd y saith yn teithio mewn bws mini, a doedd dim cerbyd arall yn rhan o’r digwyddiad.
Fe anfonwyd chwe ambiwlans i’r ddamwain a dywedodd llefarydd ar ran y gwasanaeth ambiwlans fod saith o ddynion yn eu hugeiniau a’u tridegau wedi derbyn triniaeth yn y fan a’r lle cyn cael eu cludo i’r ysbyty.
Roedd tri o’r dynion wedi cael eu dal oddi fewn y cerbyd.
Aethpwyd ag un dyn i Ysbyty’r Frenhines Elisabeth ym Mirmingham, ac fe aethpwyd â’r lleill i ysbytai ym Mirmingham, Walsall a Burton-on-Trent.