Mae’r heddlu’n ymchwilio i achos llawfeddyg sy’n cael ei gyhuddo o wneud cymaint â 1,150 o driniaethau afreolaidd ar ferched.

Mae cwmni cyfreithwyr yn ceisio dwyn achos yn erbyn Ian Paterson, llawfeddyg ym maes canser y fron ac mae’r Cyngor Meddygol Cyffredinol hefyd yn ymchwilio.

Mae’r cyfreithwyr, sy’n gweithredu ar ran nifer o fenywod, yn honni ei fod wedi gwneud llawdriniaethau “diangen, anaddas neu heb eu rheoleiddio”, gan gynnwys 700 achos o adael peth o ddeunydd y fron ar ôl wedi triniaeth i godi’r fron.

Yr honiad arall yw fod y llawfeddyg wedi cynnal mwy na 400 o lawdriniaethau diangen, lle byddai biopsi wedi bod yn ddigon.

Yn awr, mae Heddlu Gorllewin y Midlands wedi cadarnhau eu bod yn trafod y posibilrwydd o achos troseddol gyda Gwasanaeth Erlyn y Goron.

Roedd Ian Paterson wedi bod yn gweithio mewn ysbytai yn ardal Birmingham ers 1994.