David Cameron
Fe fydd David Cameron yn cychwyn ar ymweliad a’r Gwlff a’r Dwyrain Canol heddiw mewn ymdrech i sicrhau cytundebau ar gyfer awyrennau milwrol a gwella’r berthynas yn y rhanbarth.

Mae disgwyl i’r Prif Weinidog geisio dwyn perswâd ar United Arab Emirates i brynu 60 o awyrennau Typhoon BAE mewn cytundeb a fyddai’n werth £3 biliwn.

Yfory fe fydd yn teithio i Saudi Arabia sydd hefyd yn ystyried ychwanegu at ei fflyd o awyrennau.