Y cyn-brif weinidog Gordon Brown
Mewn araith yn erbyn annibyniaeth i’r Alban, mae’r cyn-brif weinidog Gordon Brown wedi honni y byddai cynlluniau Alex Salmond a’r SNP yn troi’r wlad yn drefedigaeth Brydeinig.

Os bydd yr Alban yn pleidleisio o blaid annibyniaeth yn 2014, mae llywodraeth yr  SNP wedi dweud y byddai’r Alban yn cadw at y bunt, ac yn gadael i fanc Lloegr osod cyfraddau llog a rheoleiddio holl fanciau Prydain.

“O dan y cynlluniau hyn, fe fyddai penderfyniadau economaidd allweddol yn cael eu gorfodi ar yr Alban gan yr hyn a fyddai erbyn hynny’n wlad dramor,” meddai Gordon Brown.

“Fe fyddai hyn yn ffurf o drefn drefedigaethol sy’n debycach i’r hen ymerodraeth nag i’r byd modern, gan wthio’r Alban flynyddoedd yn ôl i’r gorffennol.”

Dywedodd hefyd y byddai’r cynlluniau’r SNP yn golygu y byddai Llundain yn mynnu cael rheolaeth ar wariant a benthyciadau yn yr Alban er mwyn sicrhau sefydlogrwydd ym mharth newydd y bunt.

‘Sefydlogrwydd ariannol’

Mae’r SNP wedi wfftio’i honiadau gan ddadlau bod Banc Lloegr yn perthyn i’r Alban lawn cymaint ag i Loegr, ac y byddai hyn yn dal i fod ar ôl annibyniaeth.

“Mae cynnal parth y bunt yn gwneud synnwyr o safbwynt sefydlogrwydd ariannol – ac fe fyddai hyn er budd gweddill Prydain yn ogystal â’r Alban,” meddai Stewart Hosie, llefarydd yr SNP ar y Trysorlys.

“Banc Lloegr yw banc canolog yr Alban lawn cymaint â gweddill y Deyrnas Unedig. Mae’n cynnal llif arian parod yn y system, a’i rôl yw cefnogi sefydliadau ariannol ledled y Deyrnas Unedig.”