Ken Clarke (yup CCA 2.0)
Fe fyddai mynd i drafodaethau yn yr Undeb Ewropeaidd gyda’r bwriad o rwystro’r cyllideb yno yn “wiriondeb llwyr”, yn ôl gweinidog mwya’ profiadol Llywodraeth Prydain.

Fe fydd datganiad y Gweinidog Heb Bortffolio, Ken Clarke, yn ychwanegu at y dadlau ar ôl i Dŷ’r Cyffredin fynnu bod rhaid torri ar wario Ewrop.

Doedd y bleidlais ddim yn rhwymo’r Llywodraeth, meddai wedyn, gan ddweud y byddai’n “absẃrd” mynd i drafodaethau gan fwriadu defnyddio’r fito.

Cameron – ‘y caletaf’

Ddoe roedd y Prif Weinidog David Cameron wedi mynnu y byddai’n defnyddio’r fito pe na bai’n bosib cael “bargen dda” i wledydd Prydain.

Fe fyddai hynny’n atal cyllideb yr Undeb Ewropeaidd rhag cael ei basio ac, yn ôl David Cameron, roedd yn gwneud safiad caletach nag unrhyw Brif Weinidog Prydeinig o’r blaen.

Yn ddiweddarach y bore yma, fe geisiodd Ken Clarke egluro ymhellach, gan ddweud y byddai’n iawn defnyddio’r fito yn y pen draw pe bai angen, ond na ddylai neb fynd i’r trafodaethau gyda’r bwriad cyn dechrau o ddefnyddio’r fito.