Ystafell y Comisiwn Ewropeaidd
Mae Llywodraeth y Glymblaid yn gweithio’n galed i osgoi cael eu curo yn y Senedd tros ragor o arian i Ewrop.

Mae posibilrwydd y bydd rhwng 40 a 60 o ASau Ceidwadol yn gwrthryfela ac yn cael cefnogaeth gan y Blaid Lafur mewn pleidlais yn ddiweddarach heddiw.

Tra bod yr Undeb Ewropeaidd yn gofyn am gynnydd o 5% yn ei gyllideb ar gyfer 2014-2020, mae Llywodraeth Prydain o blaid cynnydd o 2%, yr un peth â chwyddiant.

Ond mae’r gwrthryfelwyr wedi gosod gwelliant gerbron Tŷ’r Cyffredin yn galw am doriadau gwirioneddol yn y gyllideb.

Llafur yn cefnogi

Mae Llafur hefyd yn cefnogi hynny, gan ddweud fod angen gostyngiad i gydnabod anawsterau’r gwledydd yn yr Undeb.

Dyw Llafur ddim wedi gosod gwelliant arall, gan sicrhau mwy o undod y tu cefn i gynnig y gwrthryfelwyr.

Y stori yn San Steffan yw bod chwipiaid y Llywodraeth yn gweithio’n wyllt i geisio ffrwyno’r gwrthryfel a bod y Prif Weinidog a’r Canghellor wedi bod yn cynnal cyfarfodydd unigol gydag aelodau mainc gefn sy’n debyg o greu trafferth.