Onnen
Cyhoeddodd Ysgrifennydd Amgylchedd Llywodraeth San Steffan, Owen Paterson ei fod yn bwriadu gwahardd mewnforio coed ynn i Brydain o ddydd Llun nesaf ymlaen.

Wrth siarad efo’r BBC, dywedodd bod rhaid gwneud hyn i geisio atal y ffwng chalara fraxinea sydd eisoes wedi lladd nifer o goed ynn yn Nwyrain Anglia rhag lledaenu i rannau eraill o Brydain.

Fe wnaeth y ffwng ladd 90% o goed ynn Denmarc o fewn saith mlynedd ac mae wrthi yn dinistrio miloedd eraill o goed eraill led led canolbarth Ewrop ar hyn o bryd.

Mae Mr Paterson yn credu bod y ffwng wedi cyrraedd Prydain ar goed oedd wedi cael eu mewnforio i’w plannu yn Norfolk a Suffolk.

Er yn croesawu’r gwaharddiad, mae llywydd y Gymdeithas Tir a Busnes Gwledig yn pryderu na fydd hyn yn ddigon i atal epidemig gan y gall y ffwng gael ei gario ar y gwynt i ardaleodd eraill.

“Mae’n biti mawr na chafodd y ffaith fod y ffwng wedi cyrraedd Prydain ei gyhoeddi yn y gwanwyn pan gafodd y coed cyntaf eu heffeithio, “ meddai.

Ychwanegodd na fuasai gwahardd mewnforio pryd hynny wedi gwneud gwahaniaeth oherwydd bod llawer o’r coed oedd wedi eu heffeithio eisoes wedi cael eu plannu.

‘Angen Tasglu’

Mae 30% o dirlun coediog y DU yn goed ynn ac mae’r Comisiwn Coedwigaeth wedi annog Llywodraeth San Steffan i sefydlu tasglu i ymateb i’r argyfwng.

Mae’r Comisiwn hefyd wedi rhoi’r gorau i blannu ynn mewn coedwigoedd cyhoeddus sydd dan eu gofal.

Nid yw’r griafolen (mountain ash) yn perthyn i’r un teulu a’r onnen.