Mae cynllun i ganiatáu i ffermwyr saethu moch daear yng ngorllewin Lloegr wedi cael ei ohirio tan y flwyddyn nesaf.

Roedd Llywodraeth Prydain wedi gobeithio y byddai’r cynllun peilot mewn rhan o Swydd Gaerloyw yn rheoli’r diciau mewn gwartheg ond mae wedi cael ei ohirio ar gais y ffermwyr.

Roedden nhw wedi dweud na fedren nhw ladd digon o foch daear i wneud y cynllun yn effeithiol cyn y cyfnod magu pan fyddai dim hawl i ddifa.

Heb ddifa effeithiol, meddai Undeb Cenedlaethol y Ffermwyr – yr NFU – roedd peryg o wneud pethau’n waeth.

Beirniadu

Yn dilyn y newid mae’r wrthblaid wedi beirniadu’r Ysgrifennydd Amgylchedd Owen Paterson am bolisi “hollol annigonol ac anhrefnus.”

“Roedd Llafur wedi rhybuddio’r Llywodraeth fod y difa yn wael i ffermwyr, yn wael i’r trethdalwyr ac yn wael i fywyd gwyllt,” meddai Mary Creagh, llefarydd Llafur ar yr amgylchedd . Mae hi’n gymwys fod y cynllun wedi cael ei ohirio.”

Mewn datganiad dywedodd Owen Paterson fod y Gêmau Olympaidd, heriau cyfreithiol a thywydd gwael wedi cyfrannu at y gohirio.

Roedd yr Ymddiriedolaeth Moch Daear wedi dadlau na fyddai difa’r creaduriaid yn cael effaith ar atal y diciâu rhag lledu ac nad oedd yn briodol i ganiatáu i greadur sydd wedi cael ei ddiogelu dan ddeddf gwlad gael ei saethu.

Maen nhw wedi croesawu’r gohirion, gan ddweud y bydd yn rhoi cyfle i ddod i benderfyniad “mwy synhwyrol”.

Y sefyllfa yng Nghymru

Mae’r undebau amaeth yng Nghymru, ynghyd â’r Ceidwadwyr a Phlaid Cymru, wedi galw am ddifa moch daear yng Nghymru hefyd, er mwyn rheoli’r diciáu.

Ym mis Mawrth cyhoeddodd y Gweinidog Amgylchedd, John Griffiths, y bydd Llywodraeth Cymru’n cynnal rhaglen o frechu moch daear yn mewn ardal benodol yng ngogledd-orllewin Sir Benfro.