Gary McKinnon
Fe fydd yr haciwr cyfrifiaduron Gary McKinnon yn clywed heddiw a yw’r Ysgrifennydd Cartref Theresa May wedi penderfynu ei anfon i America i sefyll ei brawf.

Mae Gary McKinnon, 46, wedi bod yn brwydro ers 10 mlynedd yn erbyn cael ei estraddodi i’r Unol Daleithiau.

Mae wedi cael ei gyhuddo o’r “achos mwyaf erioed o hacio cyfrifiaduron milwrol”.

Mae’r arbenigwr cyfrifiaduron, sy’n dioddef o syndrom Asperger’s, sef math o awtistiaeth, wedi cyfaddef iddo hacio i gyfrifiaduron milwrol yr UDA ond mae’n honni ei fod yn chwilio am dystiolaeth bod UFOs yn bodoli.