David Cameron ac Alex Salmond yng Nghaeredin
Mae David Cameron ac Alex Salmond wedi arwyddo cytundeb hanesyddol heddiw i gynnal refferendwm ar annibyniaeth i’r Alban.

Roedd y ddau brif weinidog wedi cwrdd yng Nghaeredin bore ma i drafod manylion y cytundeb. Mae’n dilyn misoedd o drafodaethau rhwng Llywodraeth San Steffan a’r Alban.

Fe fydd y bleidlais gael ei chynnal yn yr hydref 2014.

Un cwestiwn Ie/Na yn unig fydd ar y papurau pleidleisio ac fe fydd pawb dros 16 oed yn cael y cyfle i bleidleisio yn y refferendwm.

Mae David Cameron eisoes wedi dweud mai ei brif nod yw cadw’r Deyrnas Unedig gyda’i gilydd.

Fe fydd Alex Salmond yn cynnal cynhadledd newyddion prynhawn ma i roi rhagor o fanylion am y cytundeb.