Jimmy Savile
Fe fydd yr Ysgrifennydd Diwylliant Maria Miller yn ateb cwestiwn brys yn Nhŷ’r Cyffredin prynhawn ma ynglŷn ag ymchwiliad y BBC i honiadau o gam-drin gan Syr Jimmy Savile.

Fe fydd Maria Miller dan bwysau i ddweud a yw’r Llywodraeth yn bwriadu cynnal ymchwiliad annibynnol i’r helynt.

Mae’r Aelod Seneddol Rob Wilson wedi sicrhau cwestiwn brys i ofyn a yw’r Ysgrifennydd Diwylliant yn credu bod y BBC wedi gwneud digon i fynd i’r afael a’r holl honiadau yn erbyn y cyflwynydd teledu fu farw’r llynedd.

Fe fydd hefyd yn gofyn pam bod y BBC wedi penderfynu peidio darlledu rhaglen Newsnight oedd wedi ymchwilio i honiadau am Savile, gan ddangos rhaglen deyrnged iddo yn lle, yn dilyn ei farwolaeth.

Mae’r BBC eisoes wedi cyhoeddi y bydd yn cynnal ymchwiliad i’r honiadau ar ôl i ymchwiliad yr heddlu ddod i ben.

Dywed yr heddlu eu bod yn ymchwilio i honiadau bod y cyflwynydd teledu wedi cam-drin hyd at 60 o bobl dros gyfnod o 60 mlynedd.

Mae cyfres o honiadau wedi cael eu gwneud am Jimmy Savile ar ôl i ITV ddarlledu rhaglen ddogfen lle’r oedd pum dynes wedi honni iddyn nhw gael eu cam-drin yn rhywiol ganddo. Yn ôl Scotland Yard mae’r honiadau’n ymestyn o 1959 i 2006.