Senedd yr Alban
Mae disgwyl i David Cameron arwyddo cytundeb heddiw gydag Alex Salmond a fyddai’n rhoi’r hawl i’r Alban gynnal refferendwm hanesyddol ar annibyniaeth.

Mae disgwyl i’r ddau brif weinidog ddod i gytundeb â’i gilydd yn sgil trafodaethau ‘cadarnhaol’ rhwng Ysgrifennydd yr Alban, Michael Moore, a Dirprwy Brif Weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon, yr wythnos ddiwethaf.

Fe fydd David Cameron yn cwrdd â Phrif Weinidog yr Alban yng Nghaeredin yn dilyn misoedd o drafodaethau ynglŷn â’r bleidlais, ac yn benodol, ynglŷn â’r cwestiwn ar y papur pleidleisio.

Mae disgwyl i’r bleidlais gael ei chynnal yn yr hydref 2014 gydag un cwestiwn Ie/Na yn unig. Roedd Llywodraeth San Steffan wedi gwrthod cynnwys ail gwestiwn ynglŷn â datganoli pellach.

Mae disgwyl i bawb dros 16 oed gael y cyfle i bleidleisio yn y refferendwm.

Mae David Cameron eisoes wedi dweud mai ei brif nod yw cadw’r Deyrnas Unedig gyda’i gilydd.