Nicola Sturgeon, Dirprwy Brif Weinidog yr Alban
Fe fydd Alex Salmond a David Cameron yn cyfarfod yfory i drafod y trefniadau terfynol ar gyfer y refferendwm ar annibyniaeth i’r Alban.

Mae disgwyl i’r ddau brif weinidog ddod i gytundeb â’i gilydd yn sgil trafodaethau ‘cadarnhaol’ rhwng Ysgrifennydd yr Alban, Michael Moore, a Dirprwy Brif Weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon, yr wythnos ddiwethaf.

“Er bod y cytundeb terfynol i’w drafod rhwng y ddau Brif Weinidog yfory, mae fy nhrafodaethau i gyda Michael Moore wedi bod yn rhai cadarnhaol – a dw i’n credu ein bod ni wedi cyrraedd sefyllfa sy’n gwarantu refferendwm wedi’i wneud yn yr Alban,” meddai Nicola Sturgeon.

“Fe fydd y cytundeb yfory’n sichrau y bydd y penderfyniad a wneir gan bobl yr Alben yn un a fydd yn cael ei barchu’n llwyr gan y ddwy lywodraeth.”

Mae disgwyl i’r refferendwm ar annibyniaeth gael ei gynnal yn yr Alban yn hydref 2014, gydag un cwestiwn Ie/Na ar y papur pleidleisio a ddylai’r Alban dorri’n rhydd o’r Deyrnas Unedig.

Mae disgwyl hefyd y bydd pawb dros 16 oed yn cael pleidleisio yn y refferendwm.

‘Y penderfyniad pwysicaf’

Mae’r ddwy ochr yn gytûn ynghylch pwysigrwydd y bleidlais i ddyfodol yr Alban.

“Hwn fydd y penderfyniad pwysicaf y bydd pobl yr Alban yn ei wneud byth,” meddai Michael Moore. “A ydym am aros yn rhan o’r Deyrnas Unedig yr ydym wedi helpu ei hadeiladu neu a ydym yn penderfynu mynd ar ein liwt ein hunain?”

Ac meddai Nicola Sturgeon:

“Y refferendwm yw’r cyfle mwyaf y mae pobl yr Alban wedi’i gael ers 300 mlynedd i benderfynu’r math o genedl yr hoffai pawb ohonon ni fyw ynddi – a does dim amheuaeth bod ar y mwyafrif o bobl yr Alban eisiau’r math o gymdeithas decach a chyfoethocach y gall annibyniaeth ei gwireddu.”