Mae rhai o wyddonwyr mwyaf blaenllaw  Prydain yn pwyso ar lywodraeth y Deyrnas Unedig i ailystyried cynlluniau dadleuol i ladd moch daear wrth fynd i’r afael â TB gwartheg.

Mewn llythyr ym mhapur newydd yr Observer mae’r 30 o arbenigwyr yn rhybuddio y gallai lladd moch daear gynyddu yn hytrach na lleihau’r broblem o TB mewn gwartheg.

Mae llywodraeth Cymru eisoes wedi rhoi’r gorau i gynlluniau’r cyn-weinidog Materion Gwledig Elin Jones i ddifa moch daear, ac wedi cychwyn ar gynllun brechu yn Sir Benfro.

Fodd bynnag, y gwrthwyneb sy’n wir yn Lloegr, lle mae’r llywodraeth wedi trwyddedu ffermwyr yng Ngwlad yr Haf a Swydd Gaerloyw i saethu moch daear fel rhan o gynllun arbrofol.

Dywed y gwyddonwyr bod y cynlluniau peilot yn y ddwy sir yn rhy fach a thymor byr i fesur ei effaith ar TB mewn gwartheg.

“Rydym yn bryderus bod perygl i ladd moch daear ddigwydd ar draul cynlluniau i reoli TB trwy’r wlad,” meddai’r gwyddonwyr, sy’n pwyso ar y llywodraeth i ailfeddwl gan rybuddio bod lladd moch daear “yn annhebygol iawn o gyfrannu at gael gwared ar TB”.

Ond dywed David Heath, gweinidog gwladol dros amaethyddiaeth a bwyd llywodraeth San Steffan, y byddai lladd moch daear yn “gyfraniad at ymladd yr afiethyd.”