Mae ffermwr wedi derbyn dirwy o £20,000 ar ôl i gyfaill oedd yn helpu ar y fferm farw ar ôl i fyrnau gwair ddisgyn ar ei ben.

Fe fu farw David Wykes Baker, 65, o Billesdon, Caerlŷr, ar 20 Ionawr, 2009, wrth weithio ar fferm Ian Nourish.

Roedd David Wykes Baker yn helpu i symud y byrnau yn Fferm Bleak House ger Illston on the Hill, Caerlŷr.

Dywedodd llefarydd ar ran y Gweithgor Iechyd a Diogelwch bod tri o’r byrnau wedi disgyn ar ei ben. Dioddefodd anafiadau i’w ben a’i frest ac fe fu farw yn y fan a’r lle.

Dangosodd ymchwiliad gan y gweithgor bod Ian Nourish yn defnyddio’r offer cywir er mwyn symud y byrnau ond roedd y modd yr oedd yn eu symud wedi gadael y pentwr yn ansefydlog.

Clywodd ynadon y dylai Ian Nourish fod wedi sicrhau bod ei ffrind pellter saff o’r byrnau tra’r oedden nhw’n cael eu symud.

“Mae marwolaeth Mr Baker yn dangos pa mor hawdd ydi hi i weithgaredd dydd i ddydd ar fferm arwain at drasiedi,” meddai Alison Cook o’r Gweithgor Iechyd a Diogelwch.