David Cameron
Mae David Cameron wedi bod yn amlinellu ei gynlluniau i gael Prydain yn ôl ar ei thraed eto wrth iddo gloi cynhadledd y Blaid Geidwadol.

Yn ei araith, fe rybuddiodd y Prif Weinidog bod y DU yn wynebu penderfyniadau anodd yn ystod cyfnod anodd. Ond dywedodd bod Prydain “ar y trywydd iawn” a’i fod yn hyderus y gallai gwrdd â’r her.

Dywedodd y byddai’n cefnogi’r rhai “sy’n barod i weithredu, sy’n barod i gymryd risg” ac yn cyflwyno diwygiadau i sicrhau “sector preifat cryf, gwladwriaeth les sy’n gweithio, ac ysgolion sy’n dysgu.”

Fe esboniodd sut roedd ei dad, oedd yn anabl, wedi gosod esiampl iddo ac wedi dangos iddo mai’r hyn sydd ei angen i lwyddo mewn bywyd yw “gwaith caled. Teuluoedd cadarn. Cymryd cyfrifoldeb.  Gwasanaethu eraill.”

Mynnodd David Cameron na fyddai’n newid ei bolisïau economaidd i gyflwyno toriadau mewn gwariant cyhoeddus, ac fe wrthododd cynlluniau Llafur i fenthyg er mwyn  hybu twf  gan ddweud y byddai hynny’n “gambl anferth gyda’n heconomi a’n dyfodol.”