Alex Salmond
Mae refferendwm annibyniaeth yr Alban wedi dod gam mawr yn nes ac mae disgwyl i Brif Weinidogion yr Alban a Phrydain gyfarfod ddydd Llun i gytuno ar y trefniadau.

Er nad yw Downing Street wedi cadarnhau’r manylion, maen nhw wedi dweud y bydd David Cameron ac Alex Salmond yn cyfarfod yn “ystod y dyddiau nesa’”.

Mae disgwyl y byddan nhw’n cytuno ar eiriad y cwestiwn – un cwestiwn syml yn holi am annibyniaeth neu beidio – ac yn sefydlu trefn i roi’r hawl i gynnal y refferendwm i’r Senedd yn Holyrood.

Ddoe, fe fu cyfarfod rhwng Dirprwy Brif Weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon, ac Ysgrifennydd yr Alban, Michael Moore, ac, yn ôl datganiad o Rif 10, roedd y trafodaethau’n gadarnhaol.