Boris Johnson
Mae disgwyl croeso brwd i Boris Johnson pan fydd yn annerch cynhadledd y Blaid Geidwadol ym Mirmingham heddiw.

Cafodd Maer Llundain groeso cynnes gan aelodau’r blaid pan gyrhaeddodd y ddinas neithiwr wrth i’r dyfalu ddwysau ei fod â’i lygad ar arweinyddiaeth y blaid.

Ond mae disgwyl iddo fynnu bore ma ei fod yn cefnogi David Cameron i’r carn, gan ganmol y Prif Weinidog am wneud “penderfyniadau anodd mewn cyfnod  anodd”.