Willam Hague
Mae’r argyfwng economaidd yn gyfle i daro bargen newydd gyda’r Undeb Ewropeaidd, meddai’r Ysgrifennydd Tramor, William Hague.

Fe ddywedodd wrth gynhadledd y Ceidwadwyr yn Birmingham y byddai hynny’n golygu dewis mawr i bobol gwledydd Prydain ac y dylen nhw gael rhoi eu barn ar y dewis hwnnw.

“R’yn ni’n chwilio am setliad newydd gydag Ewrop,” meddai mewn araith eang, gan bwysleisio’i fod yn iawn i ymgyrchu yn erbyn ymuno â’r ewro.

Nid mwy o Ewrop oedd ei angen, meddai, ond llai – “weithiau mae llai yn well”.