David Cameron
Cyhoeddodd David Cameron heddiw ei fod am adeiladu ar “lwyddiant y GIG” drwy roi £140 miliwn i leihau’r gwaith papur sy’n cael ei wneud gan nyrsys a bydwragedd, er mwyn rhoi’r cyfle iddyn nhw dreulio mwy o amser gyda chleifion.

Wrth in Geidwadwyr ddechrau ymgynnull yn Birmingham ar gyfer cynhadledd flynyddol y blaid, fe gyhoeddodd y Prif Weinidog y byddai £15 miliwn  ar gael ar gyfer cleifion yn Lloegr sy’n dioddef o ganser er mwyn iddyn nhw gael mynediad i driniaeth radiotherapi flaengar.

Fe fydd £100 miliwn yn cael ei roi ar gyfer technoleg newydd i leihau’r gwaith papur sy’n cael ei wneud gan nyrsys, a £40 miliwn  i helpu nyrsys ac arweinwyr timau cymunedol i ddatblygu eu sgiliau – fe fydd hyfforddiant a chefnogaeth ar gael ar gyfer 1,000 o staff eleni gan godi i 10,000 dros y ddwy flynedd nesaf.

Fe fydd yr arian yn cael ei roi ar ffurf benthyciadau, ond dim ond cyfran o’r arian fydd yn rhaid i ysbytai ei  dalu’n ôl yn ddibynnol ar sut maen nhw’n perfformio a’r adborth gan gleifion a’r cyhoedd.